Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lynne Neagle Gwyn R Price (yn lle Mick Antoniw) Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr David Bailey, BMA Cymru Dr Philip White, BMA Cymru Dr David Baker, Cymdeithas y Meddydon Fferyllol Dr Paul Myers, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Chris Martin, Bwrdd Iechd Hywel Dda Berwyn Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Bernadine Rees, Bwrdd Iechyd Cwm Tâf |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Darren Millar. Roedd Gwyn R Price yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan BMA Cymru Wales, Cymdeithas y Meddygon Fferyllol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fap sy’n dangos lleoliadau safleoedd practisau fferyllol yng nghefn gwlad Cymru.
2.3 Cytunodd Dr Myers i rannu papur gyda’r Pwyllgor ynghylch yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y defnydd o Adolygiadau ar y Defnydd o Feddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol.
3. Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol a Dr Chris Jones gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch lleihau'r risg o strôc.
4. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG
4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban mewn cynhadledd fideo ar 24 Tachwedd fel rhan o’r ymchwiliad i fferyllfeydd cymunedol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn hyfforddiant anffurfiol ar graffu ar ddeddfwriaeth. Bwriedir cynnal y sesiwn ar 10 Tachwedd a bydd modd i aelodau o’r Pwyllgor ganiatáu i aelod o’u staff ddod i’r sesiwn.
Trawsgrifiad